Hengwm, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:43, 14 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy ym mhlwyf Clynnog.

Cyn diddymu'r mynachlogydd ym 1536 roedd Hengwm yn rhan o faenor fynachaidd Cwm a oedd yn eiddo i Abaty Aberconwy. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y faenor mewn siarter a roddwyd gan Lywelyn Fawr tua 1201, ond mae'n bosibl ei bod yn rhan o'r tir gwreiddiol a roddwyd ganddo i'r abaty ym 1192.