Gorsaf reilffordd Pant-glas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:07, 13 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gorsaf Pant-glas oedd yr orsaf nesaf i orsaf Pen-y-groes, i'r de, a thua 4 milltir yn nes at orsaf Afon-wen. Fe agorwyd ym 1869, ychydig ar ôl i'r lein ei hun agor. Fe wasanaethai bentref Pant-glas, rhan uchaf plwyf Clynnog-fawr a llethrau'r Bwlch Mawr. Yn fwy diweddar, roedd Pant-glas y tu allan i ffiniau pwyf Clynnog-fawr, ond pan godwyd y lein cynhwysai'r plwyf lwybr y rheilffordd bron hyd at pentref (a gorsaf) Bryncir), ac felly gellir hawlio Pant-glas fel un o orsafoedd Uwchgwyrfai. Fe safai wrth groesfan y lein tua 200 lath o'r ffordd fawr ar y ffordd i Gapel Uchaf. Mae ychydig o olion yr orsaf i'w gweld o hyd.

'Roedd un seidin fer ar gyfer nwyddau, yr ochr ogleddol i'r groesfan, ond ychydig iawn o ddefnydd gafodd hi. Peidiodd trenau nwyddau â galw ym 1955, a chaewyd yr orsaf ar gyfer teithwyr ym 1957.

Ffynonellau

  • LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), tt.86-8.