Dinas Dinoethwy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:13, 12 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dinas Dinoethwy yn enw ar godiad tir ar ben yr allt i'r de o'r Bontnewydd yr honnir iddo fod yn gaer neu amddiffynfeydd o Oes yr Haearn gan rai. Mae Plas Dinas wedi codi ar ei ganol ac ar ôl gwaith tirlunio yn y 19g, nid oes fawr o dystiolaeth fod y lle wedi bod yn amddiffynfa o unrhyw fath. Mae'r enw wedi bod ar lafer ers o leiaf y 18g, ac roedd y Parch. Richard Farrington, a oedd yn byw ym Mhlas Dinas, 1740-1772, yn arddel yr enw ac arwyddocâd y safle.[1]

Nid yw Comisiwn Henebion Cymru, fodd bynnag, o'r farn fod y safle heb dystiolaeth o hen weithfeydd amddiffynnol.[2] Mae eu gwefan, Coflein, yn llai pendant: "mae Dinas Dinoethwy yn safle ansicr gydag ond ychydig o dystiolaeth o strwythur amddiffynnol. Mae nodweddion posibl yn bodoli, ond roedd ysafle wedi cael ei ditlunio'n sylweddol yn ystod y 19g fel nad yw'r rhain yn eglur. Dywedir bod darnau o arian Rhufeinig wedi eu canfod ar y safle, ond mae'r rhain bellach ar goll." [3]

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. II, (Llundain, 1960), t.219.
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. II, (Llundain, 1960), t.219.
  3. Coflein, Dinas Dinoethwy earthwork, [1], adalwyd 12.04.2018