Rhosnenan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:19, 2 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhosnenan oedd hen enw'r tir lle saif y rhan fwyaf o bentref Y Groeslon heddiw, cyn i'r pentref ei hun gael ei ffurfio a gwmpas yr orsaf a agorwyd gan Reilffordd Nantlle ym 1828. Y pryd hynny, dim ond croesffordd oedd yno lle croesai'r ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad [[Dyffryn Nantlle][] y ffordd o'r mynydd i ffermydd llawr gwlad plwyf Llandwrog.

Mae'r elfen Nennan yn parhau mewn nifer o enwau tai uwch i fyny'r allt na'r lôn bost, megis Bryn-nenan a Phenrhos Nenan. ac mae'n glir mai Rhosnennan oedd enw'r tir gweddol wastad ar ben yr allt o bobtu'r ffordd sy'n arwain i gyfeiriad Carmel, a dichon bod yr holl enwau yn y darn hwnnw o'r Groeslon megis Bryn-rhos, Uwchlaw'r Rhos a Chefn Rhos hefyd yn cyfeirio at Rosnenan. Mae llythyrau ymysg casgliad archifol Glynllifon yn cyfeirio at bobl yn cau darnau ogomin Rhos Nenan at eu defnydd eu hunain. Tir comin agored oedd Rhos Nenan felly yn y lle cyntaf, ac mae ambell i ddarn bach yn aros felly - megis Comins Tŷ'n Rhos, ychydig is na chapel Brynrhios[[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon|

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma