Ffynnon Ddigwg

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:35, 1 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Ddigwg ym mhlwyf Clynnog Fawr nid nepell o fferm Pennarth, rhwng Aberdesach a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol.[1]

Mae nifer o hanesion anodd eu credu neu goelion gwrach yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd Ffynnon Gwtig neu Ffynnon Gyttig. Dywedodd fod pinau a wyau yn cael eu cyflwyno yno; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb ddrain yn nŵr y ffynnon.[2].

Ymysg yr ofergoelion eraill yn gysylltiedig â'r ffynnon hon, credid y byddai mellt a tharannau'n cael eu hachosi pe cwympwyd coeden ddraenen wen a dyfai gerllaw. Hen hen ofergoel baganaidd yw hon, sydd yn awgrymu bod Ffynnon Ddigwg wedi bod yn safle o bwysigrwydd crefyddol cyn dyddiau Cristionogaeth.[3]

Stori arall yn gysylltiedig â'r ffynnon oedd un a adroddwyd gan Myrddin Fardd. Credid bod trysor wedi ei guddio yn Ffynnon Ddigwg, ond nid oedd ond un math ar berson a fyddai'n gallu dod o hyd i'r arian, sef geneth wallt coch a oedd yn hel defaid ar y pryd.[4]

Mae stori ar gael hefyd sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys Brenin Ynyr, Brenin Gwent, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint amdano fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr yn poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Bennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi â'r ddaear. Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithio mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd wedyn. Adroddir stori cyffelyb am Sant Beuno mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Comisiwm Henebion Cymru, Caernarvonshire", Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57
  2. Francis Jones The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954), t.155
  3. Francis Jones, op.cit., t.19.
  4. Francis Jones, op.cit., t.134
  5. Francis Jones, op.cit., t.38.