Ffynnon Rhedyw
Roedd Ffynnon Rhedyw ar lan Afon Llyfnwy, ryw chwarter milltir i'r Gogledd-orllewin o Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi fod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni mae hi wedi bod erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.[1]
Fe ymddengys fod adeilad, neu waliau a grisiau at y dŵr, wedi cael eu codi yn y gorffennol, ac roedd peth dystiolaeth ar y safele mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma