Bwlch Dau Fynydd
Mae'r disgrifiad o leoliad Bwlch Dau Fynydd yn creu peth dryswch. Ger y fan honno yn ôl y beirdd, ymladdwyd Brwydr Bryn Derwin, ac felly gellid cymryd mai yn ardal Pantglas oedd maes y frwydr. Fodd bynnag, fe honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn Fwlch Mawr ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pantglas. Nodd ef, ac eraill megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Mae'r bwlch cul sy'n arwain o'r mor i fyny'r allt i gyfeiriad pentref Llanaelhaearn yn ymddangos y fan strategol well fel safle brwydr.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159