Brwydr Brynderwin
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.
Mae Bryn Dewin yn ymyl Bwlch Dau Fynydd yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[1]
Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:
Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall.
Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [2]
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Gwelai wawr ar wŷr lliosydd, Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd, A welai Lywelyn, lewenydd - dragon, Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd. Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd, Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[3]
Llyfryddiaeth
J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.