Brwydr Bron-yr-erw
Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger Clynnog Fawr nid neperll o Fwlch Derwin, ym 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym Mrut y Tywysogion a Hanes Gruffudd ap Cynan. Ar un ystyr, brwydr a ddigwyddodd gael ei hymladd yn Uwchgwyrfai oedd hon, lle cyfarfu lluoedd dau elyn yn eu hymgyrch am oruchafiaeth ddaearyddol. Roedd teyrnas Gwynedd yn y fantol, ond hap a damwain oedd iddi gael ei hymladd lle y cafodd. Gellid ei disgrifio fel brwydr eowleidyddol.
Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn, meddianwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw.
Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn gyda mintai o filwyr cyflogedig o Lychlynwyr. Glaniodd yn Abermenai a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd, ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan.
Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm, a ffôdd Gruffudd yn ôl i Abermenai, lle cafodd fynd ar gwch i Ynysoedd y Moelrhoniaid (Skerries) yn y lle cyntaf, ac wedyn i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (Wexford).[1]