Llyfr Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:30, 29 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hen lyfr llawysgrif a gollwyd oddeutu'r flwyddyn 1600 oedd Llyfr Beuno, neu Tiboeth (sef 'heb losgi') a gedwid yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn y canol oesoedd. Dywedir ei fod wedi ei ysgrifennu yn y 7eg ganrif gan Sant Twrog, i gofnodi'r tiroedd a 'r hawliau a oedd wedi eu rhoi i'r clas a sefydlwyd yng Nghlynnog Fawr.

Sonnir am y Tiboeth gan Iolo Goch, ac felly mae'n bosibl mai goroesi'r tân pan losgwyd Eglwys Clynnog yn 978 gan ymosodwyr Danaidd a arweiniodd at yr enw, yn hytrach na'r tân diweddarach yn Eglwys Clynnog yn ystod y 15g.

Roedd arno glawr haearn, wedi ei addurno â gemau, yn cynnwys un tywyll a oedd, oherwydd iddo gael ei nodi'n benodol, yn debygol o fod yn fawr iawn neu'n hynod o ran lliw.

Mae Dr John Davies, Mallwyd, yn ei eiriadur, (1632), yn dweud mai'r un olaf i'w weld oedd Syr Thomas Wiliems, Trefriw, a hynny ym 1594. Erbyn yr 17g roedd ar goll ac ni chafwyd sôn amdano wedyn. Mae'n debyg iddo gael ei gadw yng ghyff Beuno, y gist hynafol yn Eglwys Clynnog.

Mae Eben Fardd yn adrodd hen bennill[1]:

Tybwyd y cadwai Tiboeth,
Yn ei ffurf, oer na phoeth;
Ond mwy nid oes dim un darn
O'i gloer wiw, a'i glawr haearn.

Cyfeiriadau

  1. Eben Fardd, Cyff Beuno, (Tremadog, 1864)