Ffynnon Edliw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:22, 26 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Edliw, a rhoi'r enw mwyaf cyfarwydd ar y ffynnon hon ym mhlwyf Llandwrog, yn hen ffynnon heb fawr o hanes iddi, ond eto mae hi'n hen iawn. Enwau eraill a arddelid ar y ffynnon hon yn y gorffennol oedd Ffynnon Odliw a Ffynnon Adliw. Ni chynhwysir mohoni yn rhestr bur gyflawn Francis Jones yn ei lyfr[1]

Mae'n sefyll nid nepell o borthdy mawr Glynllifon, yr ochr arall i'r lôn bost iddo, ac ychydig i'r de, mewn darn o goedwig a elwir yn "Goed Ffynnon-edliw" ar fapiau Ordnans (cyf SH 44915539). Mae gwaith cerrig a charreg fawr o lechen ar ei phen yn golygu ei bod yn cael ei gadw'n weddol amlwg. Mae pwll o fewn terfynnau'r wal, tua 4 troedfedd wrth 2 droedfedd a hanner.[2]

Cyfeiriadau

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954)
  2. Comisaiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf 2, t.198.