Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:25, 20 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ysgol Sul o 80 o aelodau yng Nghlynnog pan agorwyd Ebeneser MC ym 1844 â 43 o aelodau (32 ohonynt yn aelodau yn y Capel Uchaf (1761-2000) – capel Robert Roberts, y seraff bregethwr), 10 yn Seion (Gurn Goch) ac un o le arall.

Fe'i henwyd yn Ebeneser o barch i Ebenezer Thomas, (Eben Fardd,1802-1863). Fe’i gwahoddwyd i gadw ei ysgol ddyddiol yma a ddatblygodd i fod yn ysgol ragbaratoawl i weinidogion ym 1863. Caeodd ym 1929.

Codwyd Tŷ Capel ym 1861 ac Ysgoldy a Thŷ’r Prifathro (Afallon) ym 1863. Gwerthwyd yr Ysgoldy a’r Tŷ Capel yn 2005 i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymunwyd â gofalaeth Bro Lleu yn 2010. Gwerthwyd Afallon i fewnfudwyr o Loegr yn 2012.