Gwilym R. Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:02, 16 Mawrth 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol Baner ac Amserau Cymru am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).

Chwarelwr oedd ei dad,John William Jones, brodor o Rostryfan, ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, Cloth Hall, ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.

Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r Genedl,Yr Herald Cymraeg, Y Dinesydd, Y Werin, Yr Eco a Phapur Pawb ar strydoedd Tal-y-sarn ac wrth gatiau Chwarel Dorothea, a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon. Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.

Dyma grynodeb o'i yrfa fel newyddiadurwr.

i'w barhau.....