Capel Salem (W), Tŷ'nlôn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:31, 16 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Salem yn un o achosion Wesleaidd cynharaf yng Ngogledd Cymru, gan fod cymdeithas o Wesleiaid wedi ffurfio ym mhlwyf Llandwrog tua 1810. Mae Capel Salem ei hun yn dyddio o 1856, ac fe'i adeiladwyd yn nhreflan Tŷ'n Lôn a oedd, hyd yn oed y pryd hynny oddi ar y briffordd. Yng nghefn y capel y mae stabl a godwyd yn ddiweddarach ar gyfer ceffyl a ddeuai â phregethwr ar ei gefn i bregethu, ond dywedir na chafodd ond un ceffel ei stablo yno erioed gan ei bod wedi codi ar derfyn oes y ceffyl pan oedd trenau a moduron yn dechrau cymryd lle'r ceffyl.

Cynhaliwyd gwasanaeth dathlu 150 mlynedd o'r adeilad presennol yn 2006 yn ystod Cyfarfod Pregethu blynyddol y capel, pan bregethodd y Parch. Gwyn C. Thomas, Tal-y-sarn, gweinidog Wesle Pwllheli ar y pryd.[1] Roedd y cyfarfod pregethu yma'n hen draddodiad a barhaodd yma'n bur hwyr, tan oddeutu 2012, ar ddydd Iau yn ystod mis Mehefin. Arferai gynnwys pedwar pregeth, un ar nos Fercher a thair yn ystod ddydd Iau, gyda dau bregethwr gwâdd (y ddau bron yn ddi-ffael yn Wesleiaid) yn rhannu'r dyletswyddau. Bu'n arferol cael cynulleidfa o gapeli'r ardal ac o eglwysi Wesleiaidd eraill Arfon, a hyd y 21g bu'n arferol cael dros 50 yn y gynulleidfa.

Mae'r capel yn dal ar agor. gyda gwasanaeth bob pnawn Sul (2018). Tan efallai 1980 roedd dau wasanaeth bob dydd Sul, a chynhaliwyd ysgol Sul am gyfnod yn y 1980au cynnar, ar ôl bwlch o 10 mlynedd a mwy.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Gwyliedydd, rhif 142 (Awst-Medi 2006)