Melin y Bont-faen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:03, 12 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin ŷd oedd Melin y Bont-faen. Erbyn hyn, dim ond fferm Pont-faen sydd ar y safle. Dyma oedd y felin olaf ar lan Afon Gwyrfai cyn iddi gyrraedd ei haber yn Y Foryd. Roedd ffôs yn cludo dŵr o'r afon ger Tŷ Cerrig (yr ochr uchaf i Bont Faen, er bod yna ffrwd felin (sef mill-race) hefyd oedd yn dod yn syth o'r afon ger y felin. Roedd y felin yn sefyll ochr Uwchgwyrfai i'r afon, ac ar ffin Uwchgwyrfai felly, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan.

Fe'i hadeiladwyd gan Richard Williams, Elernion tua dechrau'r 17g, a bu'n malu tan oddeutu 1904.[1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131