Ffynnon Wen, Maestryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:12, 5 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Wen ar ochr y lôn o Gapel y Bryn i gyfeiriad Tryfan Mawr a Rhos-isaf. Mae lle i gredu ei fod wedi cael ei defnyddio ers cyfnod cyn-hanesyddol, gan mai dyma'r unig ffynnon gref o fewn cyrraedd nifer o anheddau'r Oes Efydd. Dywedir fod ei rinweddau wedi'u hadnabod gan feddygon Tryfan Mawr, a hynny ers aamser Dr Robert Williams ym 1655.[1].

Codwyd cronfa ddŵr yno, wedi ei hadeiladu'n gadarn. Ar un adeg, beth bynnag, tynnwyd dŵr o Afon Wen gerllaw, a gosodwyd pibellau dŵr i gyflenwi cannoedd o dai mewn cymunedau ar lethrau Moel Tryfan ac mor bell â Dinas Dinlle.[2]

Yn fwy diweddar, rhoddwyd caead newydd ar y ffynnon a phrofir ei phurdeb yn gyson. cafwyd bod rhinwedd arbennig i'r dŵr gan nad oes sodiwm ynddo, ac o les felly i'r rhai nad ydynt yn gallu cymryd sodiwm. Mae cynlluniau wedi bod ar y gweill ers y 1990au i boteli dŵr Ffynnon Wen, a ffurfiwyd cwmni Ffynhonnau Ffynnon Wen. [3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
  2. Traethawd ar reilffordd Bryngwyn gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat
  3. Gwefan Cyngor Gwynedd: ceisiadau cynllunio