Ysgol Gynradd Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:16, 4 Mawrth 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol gynradd ym mhentref Bontnewydd yw Ysgol Bontnewydd.

Sefydlwyd yr ysgol o gwmpas 1865, a'i gelwir hi bryd hynny yn Bontnewydd National School. Aeth ymlaen wedyn i'w galw yn Bontnewydd Board School, a Bontnewydd Council School cyn cael ei galw yn Ysgol Gynradd Bontnewydd.

Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd yn 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei defnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

Llyfrau Log Ysgol Bontnewydd, 1865-1922 XES1/32 (Gwasanaeth Archifau Gwynedd)