Chwedl Llwyn y Ne
Chwedl yw hanes Llwyn y Ne, ger Clynnog-fawr.
Yn ôl adroddiad W. R. Ambrose, enw ar lethr uwchlaw Clynnog yw Llwyn y Ne. Roedd aderyn arbennig yn byw mewn llwyn ar y llethr hon, ac roedd ganddi’r gallu i ganu alawon swynol dros ben. Mor swynol oedd ei chan, fel bod gweithwyr i Beuno Sant yn cael ei hudo tra roeddynt yn adeiladu ei Eglwys, ac yn arafu eu gwaith. Yn ôl y stori, roedd Beuno wedi gweddïo am i’r aderyn fynd oddi yno i rywle arall, er mwyn i’r gwaith gario ymlaen.
Ffynhonnell
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma