Melinau Afon Llyfni
Roedd 'melinau Afon Llyfnwy yn bodoli'n bennaf ar gyfer trin llechfaen yr ardal. Nid oes melin yn cael ei chofnodi ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ond gan fod cymaint o gloddio a gorchuddio'r tir wedi digwydd yn sgîl y diwydiant llechi, dichon fod un neu fwy wedi bodoli yno ar un adeg.