Sant John Jones
Ganwyd Sant John Jones yng Nghlynnog Fawr yn ystod y flwyddyn 1530. Roedd ei rieni yn Gatholigion reciwstanaidd, a buont yn Gatholigion teyrngar trwy gydol ac er gwaethaf y Diwygiad Protestannaidd. Yn ystod ei ieuenctid, fe gredir iddo addoli yn Eglwys Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr cyn ymuno â Mynachlog Ffransisgaidd yng Ngreenwich. Bod yn ‘Gatholig’ yng ngwir ystyr y gair oedd pwrpas mawr ei fywyd.
Ar ôl Diddymiad y Mynachlogydd yn 1539, fe deithiodd Sant John Jones i’r Cyfandir, a phroffesodd yn Poinoise, Ffrainc. Yn dilyn hyn, fe deithiodd i Rufain ac aros ym Mynachlog Ara Coeli ble ymunodd â Thalaith Rufeinig y Reformati. Yn 1591, cafodd fendith arbennig a chymeradwyaeth gan Y Pab Clement VIII i fynd ar genhadaeth i Loegr. Erbyn diwedd 1592, roedd wedi cyrraedd Llundain, ac arhosodd am gyfnod â’r Tad John Gerard. Cafodd ei ethol yn Bennaeth Taleithiol gan ei gyd- fynachod. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma