Chwarel Dorothea

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:07, 4 Chwefror 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn.

Roedd y chwarel hon yn un o'r safleoedd mwyaf llwyddiannus yng Ngwynedd yn ei chyfnod. Dorothea oedd un o'r prif gyflogwyr yn Nyffryn Nantlle hefyd, a gellir deall ei phwysigrwydd ym mywyd bro Tal-y-sarn ar un cyfnod.

Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai am Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad Pant Du a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei dyddiau cynnar yn Cloddfa Turner, pan gymerodd William Turner, Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, feddiant o'r lle. Newidiwyd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ol cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ol gwraig Richard Garnons. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr Hen Dwll a Twll y Weirglodd, a gwnnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o Ben-y-groes.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi pan oedd ar ei hanterth, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Mae Dorothea hefyd wedi newid dwylio nifer o weithiau yn ei chyfnod, gyda llawer yn dangos diddordeb a brwdfrydedd yn ei maint a'i photensial.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai.

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma