Chwarel Blaen-y-cae
Chwarel lechi oedd Chwarel Blaen-y-Cae ger Chwarel Dorothea a Chwarel y Fron.
Chwarel fechan oedd y chwarel hon, ac agorwyd hi o gwmpas 1830. Cariwyd llechi'r chwarel hon ar flondin arbennig, ac ar inclein chwarel Cilgwyn i Dal-y-sarn. O gwmpas 40 o ddynion oedd yn gweithio yno pan yr oedd ar ei phrysuraf, a chynhyrchodd 800 tunnell yn flynyddol yn y cyfnod hwn. Cafodd ei uno gyda chwarel Tal-y-sarn cyn ei chau yn 1930au.
Ffynhonnell
Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma