Chwarel Blaen-y-cae

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:29, 3 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Blaen-y-Cae ger Chwarel Dorothea a Chwarel Fron.

Chwarel fechan oedd y chwarel hon, ac agorwyd hi o gwmpas 1830. Cariwyd llechi y chwarel hon ar flondin arbennig, ac ar inclein chwarel Cilgwyn i Dal-y-sarn. O gwmpas 40 o ddynion oedd yn gweithio yno pan yr oedd ar ei phrysuraf, a chynhyrchodd 800 tunnell yn flynyddol yn y cyfnod hyn. Cafodd ei uno gyda chwarel Tal-y-sarn cyn ei chau yn 1930au.

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma