Pant Du
Plasty hynafol yw Pant Du, ger Pen-y-groes.
Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan. Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau obobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.
Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hyn.
Ffynonellau
Griffith, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 157
Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)