Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr
Adeiladwyd Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr rhwng 1480 a 1486, ac adeiladwyd adrannau eraill ohono rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae rhannau eraill o’r Eglwys yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac hefyd i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Mae gan yr Eglwys hefyd groglen sy’n dyddio o 1531, a pulpud sy’n dyddio o gwmpas 1700. Mae seddau côr hefyd yno sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif.
Credir i’r Eglwys ei sefydlu gan Beuno Sant o gwmpas 630, ac iddo fod wedi sefydlu eglwys a man dysgu Celtaidd ar fan y lle mae’r Eglwys yn sefyll heddiw. Mae’r Eglwys hefyd yn un o’r prif fannau ar hyd llwybr y pererinion i Enlli.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma