Helfa Clynnog
Roedd hela i geisio lleihau nifer y llwynogod yn yr ardal yn anghenraid, ond anaml ceir tystiolaeth o helfa swyddogol yn cael ei threfnu. Yn Chwefror 1832, fodd bynnag, hysbysebwyd yn y Wasg y byddai Helfa Clynnog yn cyfarfod wrth y Newborough Arms yng Nghlynnog-fawr, gyda'r cwn yn cychwyn o'r dafarn am 10 y bore. Yn groes i Helfa Pen-y-groes a fu'n weithgar tua diwedd y 1820au, ni hysbyswyd fod bwyd yn cael ei ddarparu wedi i'r helfa ddarfod.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Chronicle, 14.2.1832, t.2