Symeon o Glynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:37, 8 Rhagfyr 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Symeon o Glynnog (m.1152) oedd yr ail Archddiacon Bangor y mae ei enw wedi goroesi, gan ddilyn Archddiacon Maurice. Fe'i penodwyd i'r swydd cyn 1137.[1] Ar y pryd, un archddiaconiaeth oedd yn esgobaeth Bangor ac felly bu i Symeon ddal swydd o bwys a dylanwad. Gwyddwn ei fod o, ynghyd ag Esgob Dafydd o Fangor a Phrior St Werburgh, Caer, wrth wely angau Gruffydd ap Cynan ym 1137. Yn hanes y digwyddiad hwnnw fe'i disgrifir fel "Symeon archdiacon gwr addfed o oed a doethineb".[2]

Wedi marw'r Esgob Dafydd ym 1139, penodwyd dyn o'r enw Meurig yn esgob yn ei le. Rhaid oedd i esgobion y pryd hynny ddatgan eu teyrngarwch i frenin Lloegr - y Brenin Steffan yr adeg honno. I ddechrau, fodd bynnag, gwrthododd Meurig wneud hynny, gan brotestio fod Symeon, dyn yr oedd ganddo'r parch mwyaf ato, wedi ei rybuddio rhag dangos teyrngarwch i'r brenin. Cafodd ei berswadio yn y diwedd i fynd yn groes i gyfarwyddyd Symeon ei mwyn cael ei godi'n esgob cydnabyddedig, a ddigwyddodd ym 1140. Mae'r stori hon yn tueddu awgrymu'n gryf fod Symeon yn Gymro cadarn a'i deyrngarwch yn llwyr tuag at y teulu brenhonol Cymreig.[3]

Yn sicr, nid oedd Esgob Bernard o Dŷ Ddewi wedi plesio efo gweithred Meurig, gan ei gyhuddo o fynd i mewn i Eglwys Deiniol Sant fel lleidr. Os oedd Meurig yn honni fod ganddo'r parch mwyaf at Symeon, mae'n sicr fod gan Esgob Bernard feddwl uchel ohono, a'i gymreictod. Roedd Bernard yn ymgyrchu dros gyfnod hir i'r Eglwys yng Nghymru fod a'i harchesgob ei hun, a gwnaed cais ganddo i gyngor yr Eglwys a gynhaliwyd yn Rheims ym 1148. Roedd meibion Gruffydd ap Cynan o blaid hyn, ac anfonodd Bernard lythyr at Symeon yn gofyn am ei gefnogaeth yntau i'r cais.[4]

  1. M.L. Clarke, Bangor Cathedral (Caerdydd, 1969), t.110
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf.II, t.469
  3. J.E. Lloyd, op.cit., t.483 a nodyn
  4. Edward Charles Knight, The LIfe and Career of Bishop Bernard of St David's (1100-1148), Traethawd PhD Prifysgol Abertawe 2006 [file:///C:/Users/hendr/Downloads/10797992-3.pdf], cyrchwyd 8.12.2025