Symeon o Glynnog
Symeon o Glynnog (m.1152) oedd yr ail Archddiacon Bangor y mae ei enw wedi goroesi, gan ddilyn Archddiacon Maurice. Fe'i penodwyd i'r swydd cyn 1137.[1] Ar y pryd, un archddiaconiaeth oedd yn esgobaeth Bangor ac felly bu i Symeon ddal swydd o bwys a dylanwad. Gwyddwn ei fod o, ynghyd ag Esgob Dafydd o Fangor a Phrior St Werburgh, Caer, wrth wely angau Gruffydd ap Cynan ym 1137. Yn hanes y digwyddiad hwnnw fe'i disgrifir fel "Symeon archdiacon gwr addfed o oed a doethineb".[2]
Wedi marw'r Esgob Dafydd ym 1139, penodwyd dyn o'r enw Meurig yn esgob yn ei le. Rhaid oedd i esgobion y pryd hynny ddatgan eu teyrngarwch i frenin Lloegr - y Brenin Steffan yr adeg honno. I ddechrau, fodd bynnag, gwrthododd Meurig wneud hynny, gan brotestio fod Symeon, dyn yr oedd ganddo'r parch mwyaf ato, wedi ei rybuddio rhag dangos teyrngarwch i'r brenin. Cafodd ei berswadio yn y diwedd i fynd yn groes i gyfarwyddyd Symeon ei mwyn cael ei godi'n esgob cydnabyddedig, a ddigwyddodd ym 1140. Mae'r stori hon yn tueddu awgrymu'n gryf fod Symeon yn Gymro cadarn a'i deyrngarwch yn llwyr tuag at y teulu brenhonol Cymreig.[3]
Yn sicr, nid oedd Esgob Bernard o Dŷ Ddewi wedi plesio efo gweithred Meurig, gan ei gyhuddo o fynd i mewn i Eglwys Deiniol Sant fel lleidr. Os oedd Meurig yn honni fod ganddo'r parch mwyaf at Symeon, mae'n sicr fod gan Esgob DBernard ferddwl uchel ohono.