Tafarn y Machine
Roedd Tafarn y Machine yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn ger Coedmadog ym mhentref Tal-y-sarn, a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Saes o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos.[1] Ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd oedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.[2]
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.[3] Roedd John Roberts a'i deulu'n dal yno ym 1871, ynghyd â'r forwyn, a'r enw ar yr eiddo oedd "Machine Tavern" er mai chwarelwr oedd disgrifiad galwedigaeth John Roberts o hyd, heb son am waith tafarnwr.[4]