Tafarn y Machine
Roedd Tafarn y Machine yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn yn ardal Coedmadog o bentref Tal-y-sarn, a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft.[1]
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr.[2]