Tafarn yr Engineer's Arms

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:35, 29 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861, ond heb nodi fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a weithiodd fel un oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress".[1] Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[2] Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  3. Y Tyst Cymreig, 25.6.1869, t.3