Tafarn yr Engineer's Arms

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:22, 29 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes ger Rhesdai Treddafydd. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[1] Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" yn chwarae'r piano mewn parti plant yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.[2]

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 25.6.1869, t.5