Tafarn yr Engineer's Arms
Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes ger Rhesdai Treddafydd. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[1] Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" yn chwarae'r piano mewn parti plant yn {{Neuadd y Farchnad]], Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.[2]