Tafarn yr Engineer's Arms
Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes ger Rhesdai Treddafydd. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[1] Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol.
Cyfeiriadau
- ↑ Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3