William Morgan Williams (Fferyllfardd)
Roedd Dr William Morgan Williams (1832-1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn Y Groeslon.
Fe'i anwyd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams (Gwilym Heli), oedd yn grydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Ac yntau'n fachgen ifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon, lle 'roedd ei dad wedi cael gwaith ym Melin Forgan gan was a chariwr i'r melinydd. Yno, chwaraeai gyda dau fachgen a wnaeth, fel yntau, dyfu'n feirdd o fri, sef Elis Wyn o Wyrfai a Tremlyn, a oedd yn gefnder i Fferyllfardd. Dichon mai dwy chwaer oedd mam William a mam Tremlyn (sef David Davies) a gallai hynny esbonio'r symud i'r Groeslon. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, fodd bynnag, dychwelodd y teulu i ardal Pwllheli.
Dangosai William Morgan ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.[1]
Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[2] Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[3]
Priododd Dr William Morgan Williams a Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868, roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf [4] Cawsant bedwar o blant dau fab a dwy ferch. Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R[5]