William Morgan Williams (Fferyllfardd)
Ar y gweill
Roedd Dr William Morgan Williams (1832-1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn Y Groeslon.
Fe'i anwyd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (Gwilym Heli), oedd yn grydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Ac yntau'n fachgen ifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon]], lle 'roedd ei dad wedi cael gwaith ym Melin Forgan gan was a chariwr i'r melinydd. Yno, chwaraeai gyda dau fachgen a dyfodd yn feirdd o fri, sef Elis Wyn o Wyrfai a Tremlyn, a oedd yn gefnder iddo. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, fodd bynnag, dychwelodd y teulu i ardal Pwllheli.
Dangosai William Morgan ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.[1]
Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[2] Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[3]
- ↑ Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
- ↑ Carnarvon Traders CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)
- ↑ Y Werin, "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", 7 Mawrth 1896]