Tafarn y Cwellyn Arms
Mae Tafarn y Cwellyn Arms ym mhentref Rhyd-ddu; roedd yn y darn hwnnw o'r pentref a arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda.
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai William Jones oedd y tafarnwr, a'i fod wedi derbyn trwydded i werthu gwirodydd wedi ido wneud cais i'r Fainc.[1] Ym 1881, William Williams Jones (46 oed ac yn wreiddiol o Feddgelert) oedd y tafarnwr. Roedd hefyd yn of ac yn gwerthu glo. Roedd ganddo ef a'i wraig Margaret bedwar mab a dwy ferch.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3