John Huxley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:30, 23 Hydref 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820, ac yn aelod o deulu a weithiai fel melinwyr. Credir mai John a Catherine Huxley oedd ei rieni, a'r tad yn gweithio fel melinydd yn Aberffraw. Roedd ganddo frawd, Owen, ac yn ôl pob tebyg, frawd arall o'r enw George, a fedyddiwyd ym 1826 yn Aberffraw.[1]

Ym 1841, roedd John Huxley yn lletya yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.[2] Ym 1851 fo oedd melinydd Melin y Bont-faen, plwyf Llanwnda. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd Melin Wnda, ond erbyn 1865 roedd wedi symud eto, y tro hwn i dŷ Plas Dolydd, lle cymerodd y dafarn drosodd gan ddal i weithio fel melinydd; derbyniodd drwydded i werthu gwirodydd yn y Sesiwn Drwyddedu fis Awst 1865 ar gyfer y Dolydd Arms.[3] Ar ôl ei gyfnod yn y Dolydd dychwelodd i Felin y Bont-faen rywbryd ar ôl 1871. Gweithiai yno fel y melinydd, gyda help maes o law gan ei fab John (a aned ym 1846 ac a oedd yn y 1870-80au, mae'n ymddangos, wedi bod yn felinydd Melin Dinorwig, plwyf Llanddeiniolen). Roedd John y tad yn dal i weithredu felly ym 1891, ac yntau erbyn hynny'n 71 oed.[4]

Nid oes sicrwydd a weithiai yn y felin hyd ei farwolaeth, ond roedd yn ddigon heini yn 78 oed i fynd i'r dref gyda'i fab a mynd yn chwil, gan orfod ymddangos yn y Llys Ynadon lle cafodd y ddau eu dirwyo 2s 6c yr un a chostau.[5]

Nid oedd ei fywyd heb ei dreialon: collodd ei frawd, Owen, a oedd yn forwr profiadol gyda chwch o'r enw'r "Vivid", trwy ddamwain ar y Fenai ym 1879 wrth iddo geisio mynd ar fwrdd y cwch yn y nos. Arferai gludo cerrig calch o Blas Newydd i Waith Calch Seiont. Cafwyd hyd i'w gorff ar y lan ger gorsaf reilffordd Caernarfon.[6] Ychydig flynyddoedd wedyn collodd John, ei fab, ei wraig Eliza, a hithau ond yn 38 oed.[7]

Bu farw ym 1899 yn 80 oed [8], ac fe'i claddwyd yn Llanfaglan ar 22 Awst. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bont-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.[9]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Ynys Môn, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Aberffraw, 1826
  2. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841
  3. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  4. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91
  5. Y Cloriannydd, 15.12.1898, t.2
  6. Y Genedl Gymreig, 18.12.1879, t.5
  7. North Wales Express, 12.6.1885, t.5
  8. Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899
  9. Archifdy Caernarfon, Cofrestru Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.