Tafarn y Dolydd Arms
Rhestrwyd y Dolydd Arms yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.[1] Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae hi bron yn sicr mai y dafarn a gynhaliwyd yn nhŷ Plas Dolydd oedd y dafarn hon; bu tafarnn ar y safle ers ail hanner y 18g.[2] Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel melinydd.[3] Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid oedd i Huxley weithio mewn melin arall yn y cyffiniau.
Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lodjio yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.[4] Ym 1851 bu'n felinydd ym Melin y Bont-faen, plwyf Llanwnda. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd Melin Wnda. Ar ôl ei amser yn y Dolydd dychwelodd i Felin y Bont-faen ac yn dal i weithio fel y melinydd, gyda help ei fab, ydoedd ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.[5] Bu iddo farw ym 1899.[6], ac yn cael ei gladdu 22 Awst y flwyddyn honno yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bobt-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.[7]
Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl Plas Dolydd.
Cyfeiriadau
- ↑ Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91
- ↑ Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestru Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.