Melin y Bont-faen
Melin ŷd oedd Melin y Bont-faen. Erbyn hyn, dim ond fferm y Bont-faen sydd ar y safle. Dyma oedd y felin olaf ar lan Afon Gwyrfai cyn iddi gyrraedd ei haber yn Y Foryd. Roedd ffôs yn cludo dŵr o'r afon ger Tŷ Cerrig (yr ochr uchaf i'r Bont Faen, er bod yna ffrwd melin (sef mill-race) hefyd oedd yn dod yn syth o'r afon ger y felin. Roedd y felin yn sefyll ochr Uwchgwyrfai i'r afon, ac ar ffin Uwchgwyrfai felly, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma