Ffynnon Nantcall

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:55, 3 Awst 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Nantcall ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr. Yn ôl Myrddin Fardd, fe ddefnyddid y dŵr i wella'r felan (neu iselder ysbryd), hen friwiau, gwendid a chamdreuliad. Mae Nantcall, neu Nantcyll, yn rhan o enw pedair fferm i'r de o bentref Pant-glas. Dywed Myrddin fod y bardd Robert ap Gwilym Ddu, o'r Betws Fawr yn Eifionydd, wedi canu fel a ganlyn i'r ffynnon gan ganmol rhinweddau ei dŵr:

"I'r hon fyth mae ryw hen fawr,
Ymddyg i'n ddwr meddygawl." [1]

Ceir cyfeiriad at ymweld â Ffynnon Nantcall (neu Nantcyll fel y cyfeirir ati yn y dyfyniad isod) i ymdrochi - i ddibenion meddyginiaethol mae bron yn sicr - yn y dyddiadur y bu Owen Edwards, ffermwr Fron Olau, Penmorfa yn ei gadw o 1820-27. Dyma'r hyn a gofnodwyd gan Owen Edwards ar 28 Gorffennaf 1820 (cedwir yr orgraff a'r sillafu gwreiddiol fel y'i ceir yn y llawysgrif):<ref>[2] Mae'r ffynhonnell werthfawr hon (a gedwir yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon) yn cynnwys gwybodaeth hynod fanwl am y tywydd yn ystod y cyfnod dan sylw, yn ogystal â manylion am amaethu, amgylchiadau'r cyfnod, digwyddiadau o bwys, etc. Yn ddiweddar mae tîm wedi bod yn gweithio ar y dyddiadur i'w drawsgrifio a'i ddigideiddio ar gyfer Y Tywyddiadur. Hefyd mae rhan gyntaf ymdriniaeth â'r dyddiadur wedi cael ei chyhoeddi yn rhifyn cyfredol (Rhif 24 Haf 2025) y cylchgrawn Y Naturiaethwr. Hoffwn ddiolch i Dr Hywel Madog Jones (un o'r tîm sy'n gweithio ar y dyddiadur) am anfon yr wybodaeth uchod ataf.

  Nodiadau:	Dydd Gwener  Diwrnod teg y Meibion [sef ei weision] yn mynd ar ol brecwest [sic] i Gaegoronw isa i wneud mawn yn dwad i lawr at a Giniaw i daenu  gwair y ddau Gaelleppa ac yn ei garrio  Diwedd carrio Dâs y beudy newydd. Trol Llangybi yn dwad yma i nol y gwlan Deuddeg pwys am Ddeg swllt y pwys. Elin [sef gwraig Owen Edwards] yn mynd efo’i Mam [a oedd yn dod o Langybi] i fynd i ymdrochi i ffynnon Nantcyll  Fi yn gosod bocs y Colomenod ar dalcen y Ty, ac yn rhoi y Colomenod ynddo a rhwyd ar wyneb y bocs


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

Myrddin Fardd (John Jones), Llên Gwerin Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1908), t.171.