Humphrey Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:23, 27 Mai 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Humphrey Parry (?1772-1809) yn y Cwm Mawr, Clynnog Fawr.[1] Ar ôl cyfnod yn gweithio i gyfreithiwr, symudodd i Lundain lle bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells. Ar ôl i brifathro'r ysgol honno farw ym 1797, agorodd ei ysgol ei hun yn Hackney, sef y Cambridge House Academy. Roedd enw da i'r ysgol ac iddo fo fel athro, a dywedir ei fod yn feistr ar wyth iaith. Ym 1806 fe wariodd £700 ar helaethu'r adeilad. Roedd yn aelod o'r Gwyneddigion (is-lywydd 1807, llywydd 1808), a hefyd o'r Cymreigyddion. Pan gychwynnwyd Y Greal (1804), roedd yn un o'r pedwar golygydd - William Owen Pughe a Thomas Jones (Bardd Cloff) yn cynrychioli'r Gwyneddigion, a Humphrey Parry a John Jones (Jac Glan-y-gors) yn cynrychioli'r Cymreigyddion (er bod y pedwar yn aelodau o'r ddwy gymdeithas).[2] Honnwyd gan R.T. Jenkins fod Parry'n arweinydd y gwrthwynebiad i awdurdod Owain Myfyr a Pughe yng nghyfarfodydd y Gwyneddigion. Teimlai fod Pughe (ar bwys "llogellau Owain Myfyr," chwedl Parry) yn cael gormod o'i ffordd ei hun, ei fod yn mynnu cael argraffu'r Greal yn ei orgraff ef ei hunan, ac yn cadw allan ohono bopeth nad oedd yn dderbyniol ganddo, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn cynnwys gormod o erthyglau hynafiaethol eu naws na fyddai'n plesio'r darllenydd cyffredin. Meddai R.T. Jenkins wedyn:

Eglura hyn oll mewn llythyr maith (Medi 1806) at Dafydd Ddu Eryri - dengys y llythyr, gyda llaw, y gallai Parry ei hunan fod mor ffansïol â Pughe yn ei syniadau gramadegol. Dymunai weld cylchgrawn Cymraeg mwy gwerinol na'r Greal yn cael ei gyhoeddi yng Nghaernarfon.[3] 

Pan sefydlodd Dafydd Ddu Yr Eurgrawn ym 1807, anfonodd Parry ysgrif ar ramadeg (dyddiedig o Glynnog, Gorffennaf 1807), i'w chynnwys yn y cylchgrawn hwnnw. Yr oedd Parry hefyd yn bwriadu cyhoeddi llyfr gramadeg, ond bu farw fis Ebrill 1809, wrth ddarllen llyfr Cymraeg i'w gyd-ysgolhaig y Dr. John Jones (?1766-1827)., a hynny'n annisgwyl ym mlodau ei ddyddiau, yn ôl y papur newydd.

Yn ddigon diddorol, er i Parry ymweld â Chlynnog ym 1807, roedd y papur lleol, wrth gofnodi ei farwolaeth ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn cael ei enw'n anghywir gan nodi bod "Mr. Henry Parry, Master of Cambridge House Academy" wedi marw.[4]

Cyfeiriadau

  1. Myrddin Fardd, Adgof Uwch Anghof (Pen-y-groes, 1883), t.28
  2. Myrddin Fardd, Adgof Uwch Anghof (Pen-y-groes, 1883), tt.30-1
  3. R.T. Jenkins yn R.T. Jenkins (gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953), t.1061
  4. North Wales Gazette, 23.3.1809, t.3