Howell Roberts (Hywel Tudur)
Roedd Howell Roberts (Hywel Tudur) (1840-1922) yn fardd, pregethwr a dyfeisydd. Fe'i anwyd 21ain o Awst 1840 yn drydydd o wyth o blant mewn bwthyn ger y ffordd rhwng Pandy Tudur a Moelogan. Adeiladydd oedd ei dad, Humphrey Roberts, a fyddai'n codi a gwerthu tai. Dechreuodd ymddiddori mewn barddoni yn gynnar a threuliodd dymor yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon cyn mynd i Lanllyfni i gadw ysgol - heb fod nepell o Glynnog lle y trigai ei eilun Eben Fardd. Cododd Fryn Eisteddfod yn gartref i'w deulu.
(i barhau)