Ellis W. Hughes (Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:58, 28 Ebrill 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ellis W. Hughes (ganed 1870) yn frawd i'r bardd a'r telynor Llyfni Huws, ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, Pen-y-groes. Fe'i aned mewn bwthyn ar fferm Pant Du, Pen-y-groes. Fel ei dad o'i flaen, enillai ei gyflog fel chwarelwr.[1] Fel ei frawd William, roedd Ellis hefyd yn fardd ac fe'i derbyniwyd i'r Orsedd trwy arholiad ym 1895, gan fabwysiadu idoo'i hun yr enw barddol "Llyfnwy".[2] Roedd natur crefyddol i beth o'i waith yn ystod cyfnod y Diwygiad, a chyhoeddwyd emyn rhagorol dan y teitl "Profiad y Pechadur" yng nghylchgrawn Llais Rhyddid.[3]

Bu hefyd yn bridio cwn defaid ac yn eu dangos mewn sioeau cyn iddo briodi, gan lwyddo i gael canmoliaeth yn Sioe Llŷn, 1901.[4]

Priododd Claudia Hughes, o Stryd Berry, Conwy, 30 Awst 1901, yng nghapel Pendref (A), Caernarfon.[5] Dichon mai clerc yn Swyddfa Bost Conwy ydoedd, a aned i deulu o gryddion o Langernyw.[6]

Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg. .[7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871 a 1901
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 26.7.1895, t.7
  3. Llais Rhyddid, Cyf.IV, (1905), t.21
  4. Cambrian News, 12.4.1901, t.2
  5. Caeranarvon and Denbigh Herald, 6.9.1901, t.8
  6. Cyfrifiad plwyf Conwy, 1901 a Chyfrifiad plwyf Llansannan, 1891
  7. Y Drych, 17.1.1895, t.1