Ellis W. Hughes (Llyfnwy)
Roedd Ellis W. Hughes (ganed 1870) yn frawd i'r bardd a'r telynor Llyfni Huws, ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, Pen-y-groes. Fe'i aned mewn bwthyn ar fferm Pant Du, Pen-y-groes. Fel ei dad o'i flaen, enillai ei gyflog fel chwarelwr.[1] Fel ei frawd William, roedd Ellis hefyd yn fardd ac fe'i derbyniwyd i'r Orsedd trwy arholiad ym 1895, gan fabwysiadu idoo'i hun yr enw barddol "Llyfnwy".[2] Roedd natur crefyddol i beth o'i waith yn ystod cyfnod y Diwygiad, a chyhoeddwyd emyn rhagorol dan y teitl "Profiad y Pechadur" yng nghylchgrawn Llais Rhyddid.[3]
Bu hefyd yn bridio cwn defaid ac yn eu dangos mewn sioeau cyn iddo briodi, gan lwyddo i gael canmoliaeth yn Sioe Llŷn, 1901.[4]
Priododd Claudia Hughes, o Stryd Berry, Conwy, 30 Awst 1901, yng nghapel Pendref (A), Caernarfon.[5]
Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg. .[6]