Ellis W. Hughes (Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:13, 28 Ebrill 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ellis W. Hughes (ganed 1870) yn frawd i'r bardd a'r telynor Llyfni Huws, ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, Pen-y-groes. Fe'i aned mewn bwthyn ar fferm Pant Du, Pen-y-groes. Fel ei dad o'i flaen, enillai ei gyflog fel chwarelwr.[1] Fel ei frawd William, roedd Ellis hefyd yn fardd ac fe'i derbyniwyd i'r Orsedd trwy arholiad ym 1895, gan fabwysiadu idoo'i hun yr enw barddol "Llyfnwy".[2] Roedd natur crefyddol i beth o'i waith yn ystod cyfnod y Diwygiad, a chyhoeddwyd emyn rhagorol dan y teitl "Profiad y Pechadur" yng nghylchgrawn Llais Rhyddid.[3]

Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg. .[4]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871 a 1901
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 26.7.1895, t.7
  3. Llais Rhyddid, Cyf.IV, (1905), t.21
  4. Y Drych, 17.1.1895, t.1