Ellis W. Hughes (Llyfnwy)
Roedd Ellis W. Hughes (1870-) yn frawd hynaf y bardd a'r telynor Llyfni Huws, ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, Pen-y-groes. Fe'i aned mewn bwthyn ar fferm Pant Du, Pen-y-groes. Roedd Ellis hefyd yn fardd a dderbyniwyd i'r Orsedd trwy arholiad ym 1895, gan fabwysiadu idoo'i hun yr enw barddol "Llyfnwy".[1] Roedd natur crefyddol i beth o'i waith yn ystod cyfnod y Diwygiad, a chyhoeddwyd emyn rhagorol dan y teitl "Profiad y Pechadur" yng nghylchgrawn Llais Rhyddid.[2]
Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg. .[3]