Porth y Casul

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:11, 18 Ebrill 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae lleoliad Porth y Casul wedi mynd ar goll, ond dywedir mai wyth milltir o Gaernarfon ydoedd. Cysylltir yr enw gyda'r traddodiad fod Santes Gwenffrewi wedi anfon casul (sef dilledyn clerigol) i Sant Beuno bob blwyddyn, a'i fod wedi cyrraedd yn wyrthiol yn y borth dan sylw, a hynny heb iddo wlychu o gwbl. Mae hyn hefyd yn gyfrifol am enw amgen ar y lle, sef Porta Sachlen (sef Porth Sych-len). Mae'r Athro Patrick Sims-Williams yn awgrymu y gallai Porth Clynnog ger Aberdesach fod yn lleoliad posibl ar gyfer Porth y Casul.

Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.[1]

Cyfeiriadau

  1. Patrick Sims-Williams, Buchedd Beuno. The Middle Welsh Life of St Beuno (Dulyn, 2018), tt.32, 64.