Thomas Parry (Dinlle)
Gwr a aned yn Llanrug oedd Thomas Parry (1843-?1907) a arddelai'r enw barddol o "Dinlle". Mae'n bosibl mai plentyn siawns ydoedd, gan fod y Cyfrifiad yn disgrifio ei fam fel "spinster". Ym 1861, gweithiai fel chwarelwr llechi; roedd ei frawd hŷn, David, yn saer. Cartref y teulu oedd bwthyn Pen-rhiw.[1]
Roedd o a'i wraig yn byw yn Y Groeslon ym 1871, pan rhoddodd ei alwedigaeth fel ffarmwr a masnachwr glo. Mae'n amlwg fod ei fusnes wedi ffynnu. Cododd yr ail dafarn i agor ym mhentref Y Groeslon, sef Gwesty'r Grugan Arms tua 1880, a hynny tua'r un amser ag y cododd Westy Caernarfon Bay yn Ninas Dinlle. Roedd o a'i deulu'n byw yn y dafarn adeg Cyfrifiad 1881, lle nodir ei alwedigaeth fel masnachwr coed. Roedd ganddo wraig, Elizabeth, a oedd yn hanu o blwyf Llandwrog.[2] Erbyn 1889, roedd wedi gwerthu'r Grugan Arms i ddyn o'r enw C.E. Jones, gan fyw o hynny allan yn Ninas Dinlle. [3] I ddechrau, mae'n ymddangos ei fod ef ac Elizabeth wedi lodjio yn nhŷ Tan Dinas. Marine Cottage oedd cartref y cwpl erbyn 1901, pan disgrifiwyd Thomas fel siopwr a "confectioner".[4] Mae'n debyg iddo farw ym 1907.[5]
Ni fu ei gysylltiad â'r gwesty yn Ninas Dinlle'n un hir, fodd bynnag, oherwydd i'r fenter fynd i'r wal a chymerwyd y lle drosodd gan gwmni masnachol. Symudodd Thomas Parry a'i deulu yn y man i fwthyn ar odre'r Dinas ac yno agorodd gaffi - un o ddau a oedd yno ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Roedd Thomas Parry'n hoffi barddoni, ac yn ôl W. Gilbert Williams, dreuliai ei hafau'n gwasanaethu torf o ymwelwyr, gan dreulio'r gaeaf yng nghwmni'r Awen, yn "nyddu cywyddau ac englynion mewn cyflawnder".[6] Derbyniodd ambell wahoddiad i ddatgan rhai o'i gyfansoddiadau mewn cyfarfodydd llenyddol, ond erbyn hyn, mae'r cof amdano fel bardd wedi mynd ac fe gofir amdano fel un o ddynion busnes a datblygwyr cynharaf cyrchfan Dinas Dinlle.
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1861
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1881
- ↑ Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.64
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1891-1901
- ↑ Rhestr marwolaethau Cymru a Lloegr 1907. Dyma unig Thomas Parry y mae ei farwolaeth wedi ei gofnodi 1901-1911 yn ardal gofrestru Caernarfon. Nid yw Thomas Parry (nac Elizabeth Parry) yn ymddangos yn nogfennau Cyfrifiad Llandwrog 1911.
- ↑ W. Gilbert Williams, "Dinas Dinlle", Cymru, Cyf.29 (Ionawr 1905), t.74