Coleg yr Iesu, Rhydychen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:34, 14 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd gan Goleg yr Iesu, Rhydychen hawl i brif gynnyrch y Degwm, sef y degymau rheithorol, a ddeilliai o blwyf Clynnog Fawr a hefyd o blwyfi Llanwnda a Llanfaglan. Er bod Llanfaglan yn Isgwyrfai, fel plwyf bach a di-sylw, mae wedi cael ei ddal ar y cŷd efo bywoliaeth Llanwnda. Roedd gwaith bugeilio'r plwyfolion ar ôl diddymiad y mynachlogydd ym 1536-40 yn syrthio ar y ficer ac unrhyw gurad gan nad poedd y rheithor yn unigolyn a ordeiniwyd; roedd y ficer yn derbyn cynnyrch degymau'r ficerol, a oedd oddeutu chwarter yr hyn a gaed gan Goleg yr Iesu.

Mewn erthygl yn y Cardiff and Merthyr Guardian ym 1847, ceir esboniad o'r sefyllfa, a'r modd yr oedd Coleg yr Iesu'n manteisio ar effeithiau chwyddiant ers iddo dderbyn waddoliad yn ewyllys Syr Leoline Jenkins ym 1685, pan etifeddodd y Coleg incwm i ddarparu cyflog i ysgolfeistr y Bont-faen a darparu ysgoloriaethau i ddisgyblion yr ysgol honno a oedd am fynd yn eu blaen i Goleg yr Iesu. Yn yr un modd, nid oedd y Coleg wedi gwneud fawr i gynyddu ei gefnogaeth i blwyf Llandysul yn ne Cymru lle roedd y Coleg yn debyn y Degwm, nac ychwaith ym mhlwyfi Ynys Môn (yn cynnwys Caergybi), na phlwyfi Clynnog Fawr, Llanwnda a Llanfaglan. Mae awdur anhysbys yr erthygl, wrth ddangos annhegwch y sefyllfa, yn dyfynnu sefyllfa ariannol y plwyfi hyn.

Yn achos Clynnog Fawr, aeth pedair rhan allan o bump o'r Degwm i goffrau'r Coleg - eu gwerth cychwynnol oedd £24 i'r Coleg a £6 i'r ficer - a hwnnw'n gorfod talu cyflog unrhyw gurad o'i boced ei hun. Gydag effaith chwyddiant, roedd incwm a aeth i'r Coleg o Glynnog Fawr yn £632 a'r incwm i'r ficer yn £158. Yn achos Llanwnda a Llanfaglan, nodwyd bod y degwm a hawliai gan y ficer yn £270 ym 1847, tra bod y Coleg yn derbyn tua £800.[1] Er mwyn cymharu'r symiau hyn gyda'u gwerth heddiw, dylid nodi mai £100 ym 1847 gyfwerth â £15800 heddiw (2025).[2]

Cyfeiriadau

  1. Cardiff and Merthyr Guardian , 20.2.1847, t.4
  2. Jim O’Donoghue, Louise Goulding, a Grahame Allen, "Consumer Price Inflation Since 1750" in Economic Trends rhif 604, tt.38-46) .